Polisi preifatrwydd
Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennym?
Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac yn ddefnyddiwr anhysbys o'r wefan, nid yw gwefan y Gweithfeydd yn storio nac yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch ond, yn hytrach, yn cofnodi eich cyfeiriad IP sy'n cael ei adnabod yn awtomatig gan weinydd y we. Fe'i gelwir yn 'ffeil cofnodi' ac rydym yn ei defnyddio i gasglu ynghyd ystadegau sy'n ymwneud â defnyddio'r wefan.
Nid yw'r wefan hon yn defnyddio 'cookies' i gasglu gwybodaeth am ddefnyddwyr. Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth oddi wrth y rheini sy'n ymweld â'r wefan hon: adborth; a manylion tanysgrifio trwy e-bost.
Adborth
Rydym yn croesawu eich sylwadau. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu ag adrannau eraill o'r llywodraeth i gael gafael ar yr wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd yn rhaid i ni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg. Ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un wrth ddelio â’ch ymholiad, oni bai y byddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ar ôl i ni ateb eich ymholiad, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio.
Tanysgrifio ar gyfer negeseuon e-bost
Mae rhai rhannau o’r wefan hon yn cynnig diweddariadau drwy’r e-bost. I dderbyn yr wybodaeth hon, bydd angen i chi gofrestru gan nodi eich cyfeiriad e-bost; enw defnyddiwr a chyfrinair. Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth a ddarperir gennych â thrydydd partïon, ac rydym yn diogelu’r wybodaeth yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
Y Ddeddf Diogelu Data
O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Rydym yn defnyddio’r technolegau a’r feddalwedd amgryptio ddiweddaraf i ddiogelu eich data, ac yn cadw at safonau diogelwch llym er mwyn sicrhau na cheir mynediad ato heb awdurdod. Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti nac i adrannau eraill o'r llywodraeth.
Hawl i weld eich gwybodaeth a chysylltu â ni
Os hoffech weld cofnod o unrhyw ohebiaeth yr ydych wedi'i hanfon atom, neu os bydd gennych ymholiad neu g w yn am y polisi preifatrwydd hwn neu am y wefan hon, cysylltwch â'r gwefeistr trwy anfon e-bost i'r cyfeiriad a ganlyn: Webmaster@wales.gsi.gov.uk.
Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn
Os yw’r polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Byddwn yn adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau y gwyddoch bob amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.
